Amdanaf fi

Helo! Gwenan ydw i a dwi'n gweithio fel Swyddog Cynhwysiant Digidol (llond ceg go iawn!) yng Nghanolfan Fenter Congl Meinciau ym Motwnnog. Pwrpas fy swydd i ydi hyrwyddo technoleg gwybodaeth a dangos i chi sut mae gwneud y mwyaf ohono!

Astudiais radd mewn Celfyddid Gain gyda arbenigedd mewn paentio yn Arothfa Prifysgol Cymru Caerdydd. Gyda amser yn brin a dim lleoliad i baentio penderfynais gychwyn defnyddio fy iPad fel canfas i greu celf. Mae'n ffordd hwylus, di-lol a chyffroes o greu - a does dim rhaid i chi olchi'r brwsys paent ar y diwedd!!!

Dyma i chi luniau o chydig o'r gwaith dwi wedi greu dros y blynyddoedd, a'r gwaith diweddaraf ar yr iPad.
 


Sefyll wrth y lamp - Gwenan Griffith 2013


Tan y Grisiau - Gwenan Griffith 2013




Mam yn darllen - Gwenan Griffith 2013

Hollywood/Vine - Gwenan Griffith 2011
Connaught Road - Gwenan Griffith 2008
 
Clown - Gwenan Griffith 2007


Tryfan - Gwenan Griffith 2008