Mae'r dudalen yma'n cynnwys doleni i wefanau artisitiad proffesiynnol sydd yn creu celf gyda'r iPad
Hawlfraint David Hockney |
David Hockney
Mae David Hockney yn cael ei ystyried yn un o artistiaid mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif. Artist o Fradford yn Lloegr yw David Hockney. Mae'n artist byd enwog ac yn adnabyddus am y gwaith a gynhyrchodd yn ystod cyfnod celf pop (pop art) yn y 60au. Mae Hockney bellach yn 75 oed ac yn defnyddio'r iPad i greu ei gelf.
Cliciwch ar y ddolen yma i gael mwy o wybodaeth ar David Hockney
Liverpool Street Hawlfraint Nadja Ryzhakova |
Nadja Ryzhakova
'The world how it is through the iPad'
Artist ifanc o Rwsia ydi Nadja Ryzhakova ond mai bellach yn byw yn Llundain. Astudiodd radd mewn celf goffaol ym Mhrifysgol Moscow, er bod ei chefndir mewn astudio celf traddodiadol mae Nadja wedi troi ei llaw at yr iPad i greu ei gwaith. Mai'n defnyddio'r iPad i gofnodi bywyd dydd i ddydd, digwyddiadau cymdeithasol, a materion gwleidyddol.
Cliciwch ar y ddolen yma am fwy o wybodaeth ar waith Nadja.
No comments:
Post a Comment
Note: only a member of this blog may post a comment.